Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

Cofnodion

 

 

Statws: Wedi'u cymeradwyo gan y cyd-gadeiryddion

 

Dyddiad y cyfarfod

16 Hydref 2015, Neuadd Maesgwyn, Wrecsam

 

Yn bresennol

Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, cyd-gadeirydd), Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr Cymreig, cyd-gadeirydd), David Vasmer, Trevor Palmer (Anabledd Cymru), Jim Crowe (Anabledd Dysgu Cymru), Rhian Davies (Anabledd Cymru), Vin West (Grŵp Mynediad Arfon, Cynghrair Cymru ar gyfer Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion), Margaret Provis (Llywodraeth Cymru), Mark Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Nathan Lee Davies (Anabledd Cymru), Sheila Meadows OBE (Rhiant), Sylvia Prankard (NAW, AGGCC, Cymdeithas Parkinsons), Tim Atkinson (Cymdeithas MND), Gary Jones (Gwasanaeth Symudedd Cymru), Anne Williams (Rhiant), Celia Lewis (NEWSA Ltd), Angela McDermott (Dewis CIL), Simon Cooke (Dewis CIL), Jamie Westcombe (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol), Lindsay Haveland (CTA Cymru), Jan Thomas (Fforwm Anabledd Sir y Fflint), Kathy Brimige (Fforwm Anabledd Sir y Fflint), G. Davies (Mind Cymru), Rosemary Burslem (Ymddiriedolaeth Byw'n Annibynnol DB), Anthony Green (Mencap Cymru), Deborah Smyth (Affirm Consultancy & Training), Rebecca Phillips (Cyngor Cymru i'r Deillion – cofnodion), Paul Swann (Anabledd Cymru - ysgrifennydd)

Ymddiheuriadau

Clive Emery (Ymgynghorydd Busnes), Jennie Lewis (Rhiant), Steve Harris (Dewis CIL), Owen Williams (Cyngor Cymru i'r Deillion), Anthony Jordon (Llywodraeth Cymru), Isabel Mortimer (Llywodraeth Cymru)

1.     

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Mark Isherwood AC bawb i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd yn Wrecsam a chyflwynodd yr ysgrifennydd, Paul Swann, a'r cyd-gadeirydd, Aled Roberts AC.

 

Cadeiriodd Mark Isherwood AC y cyfarfod hyd at eitem 4, ac yna cymerodd Aled Roberts AC yr awenau.

2.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi (13/5/15)

Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir. 

Cynigiwyd gan: Jim Crowe   Eiliwyd gan: Rhian Davies

 

Roedd y camau gweithredu naill ai wedi'u cwblhau neu’n eitemau ar yr agenda ar wahân i'r tri canlynol. Bydd yr ysgrifennydd yn eu cwblhau o fewn y mis nesaf.

 

Cam gweithredu: ysgrifennu at Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru i dynnu sylw at droseddau casineb anabledd a gwahodd ei awgrymiadau neu arweiniad ar y gwaith y mae'n bwriadu ei wneud yn y maes hwn.

 

Cam gweithredu: ysgrifennu at Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn i droseddau casineb anabledd gael eu hystyried o fewn neu ochr yn ochr â'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

 

Cam gweithredu: ysgrifennu at Gomisiynwyr y Cynulliad a'r Llywydd i ofyn iddynt ystyried y materion a godwyd yn eu gwaith allgymorth gyda phobl ifanc.

 

Materion yn codi:

i) Roedd llythyr wedi dod i law oddi wrth y Gwir Anrh. Alun Michael yn diolch i'r grŵp am ei wahodd i siarad yn y cyfarfod diwethaf. Roedd yn teimlo bod hyn yn gyfle da iddo ganolbwyntio ar faterion anabledd. Dosbarthwyd copïau o'r llythyr cyn y cyfarfod.

 

ii) Roedd Paul Swann yn falch iawn o ddweud bod ymateb wedi ei dderbyn i lythyr y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd at y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford AC, yn cwestiynu absenoldeb Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething AC, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y pryderon a'i bod bellach wedi cynnwys cyfeiriad at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig, ac yn benodol at Erthygl 19 sy'n ymgorffori'r hawl i fyw'n annibynnol. Dosbarthwyd copïau o'r llythyr cyn y cyfarfod.

 

Sylwadau:

Croesawodd Vin West y llythyrau gan y Gwir Anrh. Alun Michael a chan Vaughan Gething AC. Fodd bynnag, mynegodd ei bryderon ynghylch defnydd Mr Michael o'r term 'Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd' yn hytrach na 'Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd', a'i fod yn yr un modd yn defnyddio'r term 'Anabledd Dysgu' yn hytrach nag 'Anhawster Dysgu' fel y defnyddir yn y cyd-destun Model Cymdeithasol. Yn debyg i lythyr y Dirprwy Weinidog, mae'n cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi datgan y dylid defnyddio'r iaith briodol ar gyfer y model y mae'r Gwadlwriaethau sy'n Barti yn gweithio ynddo. Felly, dylid cyfeirio ato yn y DU fel 'Confensiwn y Cenhedloedd Uned ar Hawliau Pobl Anabl'. Gofynnodd fod hyn yn cael ei gyfleu i'r Dirprwy Weinidog.

 

Cytunodd Jim Crowe â byrdwn sylwadau Vin, ond ychwanegodd nad oedd pobl ag anabledd dysgu o reidrwydd yn cytuno â'r dadansoddiad o'r disgrifydd 'anabledd dysgu'.

 

Dywedodd Paul Swann ei fod wedi codi pwyntiau Vin gyda swyddogion. Cafodd hyn ei hystyried a lle y mae wedi'i ysgrifennu yn y Ddeddf, mae'n cyfeirio 'Pobl Anabl' yn hytrach na 'Pobl ag Anableddau', sef y teitl ffurfiol.

 

3.

Rhoi Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar waith

 

Margaret Provis – safbwynt Llywodraeth Cymru

 

Mae Llywodraeth Cymru ar fin cwblhau'r fframwaith deddfwriaethol, a fydd yn cael ei gefnogi gan gyfres o godau ymarfer. Bydd pob cod ymarfer yn cyfeirio at eiriolaeth.

 

Mae'r fframwaith deddfwriaethol ategol yn cael ei greu mewn dau gam. Mae cam un wedi'i gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyrraedd y pwynt o osod y set derfynol o reoliadau i Aelodau'r Cynulliad ei hystyried. Maent yn llunio fersiynau terfynol yr holl godau ymarfer, a fydd ar y llyfr statud cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

 

Mae rhaglen hyfforddiant rhagarweiniol ar gael ar-lein ar hyn o bryd. Mae'r rhaglen yn rhedeg ar sail 'hyfforddi'r hyfforddwr' ac mae ar gael i'w llwytho. Yn ogystal, mae'r Gweinidog wedi gofyn i raglen monitro a gwerthuso fod ar waith, ac mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio ar hyn.

 

Mark Jones, Pennaeth y Gwasanaeth Nam Corfforol, Synhwyraidd a Niwrolegol ac Iechyd Meddwl, Gofal Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – safbwynt awdurdod lleol

 

Croesawodd Mark y Ddeddf newydd, sy'n canolbwyntio'n fwy uniongyrchol ar yr hyn sy'n bwysig. Mae'n diweddaru deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol ac yn ei gosod mewn fformat mwy ymarferol a syml.

 

Mae Wrecsam wedi bod yn gwneud gwelliannau i faint o wybodaeth y mae'n ei darparu drwyddi draw.

 

Mae gwefan newydd wedi cael ei datblygu o'r enw 'Dewis Cymru' sy'n darparu gwybodaeth a chyngor ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer dinasyddion Cymru. Dyma fydd y lle i fynd os oes gennych ymholiad neu broblem ynghylch eich lles. Bydd rhwydwaith o sefydliadau proffesiynol, sefydliadau trydydd sector, y sector preifat a grwpiau cymunedol preifat, pobl anabl neu ofalwyr yn cyfrannu at y porthol. Bwriedir hefyd iddo helpu o ran llwyddo i gyflwyno'r gofynion newydd ar awdurdodau lleol ynghylch gwybodaeth, cyngor a chymorth, fel y nodir yn Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

Bellach, mae gan Wrecsam dîm ymateb cychwynnol sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol a nyrsys a fydd yn ymateb i'r rheini sydd wedi methu dod o hyd i ateb drwy'r porthol. Gwahoddwyd y Cyngor Gwirfoddol Cymunedol lleol i gyfrannu, ynghyd â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr a ddarperir gan AVOW. Bydd hyn yn helpu gwasanaethau cymdeithasol i gyfeirio pobl yn well at fudiadau trydydd sector.

 

 

Vin West, Rhiant Ofalwr, Grŵp Mynediad Arfon – safbwynt gan y Panel Dinasyddion

 

Dechreuodd Vin drwy ddiolch i'r Gweinidog Iechyd blaenorol, Gwenda Thomas, am gyfarwyddo'i swyddogion i sefydlu'r Panel Dinasyddion.

 

Eglurodd mai arbenigedd y Panel Dinasyddion yw bod yn dderbynnydd gwasanaethau cymdeithasol neu ofalu am rywun sy'n derbyn gwasanaethau cymdeithasol. Er gwaethaf dechrau sigledig, mae'r Panel Dinasyddion yn gwneud cynnydd a bydd yn falch o weld y panelau rhanbarthol yn cael eu sefydlu. O ddeall a mabwysiadu cysyniadau fel cydgynhyrchu, cymorth a gyfarwyddir gan ddinasyddion, byw'n annibynnol a'r model cymdeithasol o anabledd, mae modd gwireddu potensial y Ddeddf.

 

Er bod y cynnydd yn araf, y gobaith yw bod pobl anabl yn cael perthynas fwy cyfartal â'u hawdurdod lleol.

 

Mynegodd Vin ei bryder na fydd rhai o ddyheadau'r Ddeddf  yn cael eu cyflawni, fel awdurdodau lleol yn mynd ati i hyrwyddo mentrau cymdeithasol a mudiadau'r trydydd sector, gan gynnwys y rhai a arweinir gan bobl anabl, os na fydd cyllid ar gael i wneud i hyn ddigwydd.

 

 

Nathan Lee Davies – safbwynt derbynnydd gwasanaeth

 

Dechreuodd Nathan drwy ddweud bod llawer i gyffroi yn ei gylch yn y Ddeddf gan ei bod yn cynnig mwy o ddewis a rheolaeth a llais cryfach i bobl anabl.

 

Fodd bynnag, mynegodd ei bryder y bydd y Ddeddf yn anodd ei deall, gan olygu na fyddai o unrhyw ddefnydd i'r bobl y mae i fod i'w helpu os nad ydynt yn ei deall ac yn ei gweld yn cael ei rhoi ar waith yn gywir. Hoffai weld cyfres o fideos esboniadol yn cael eu cynhyrchu ar gyfer pobl anabl a'u gofalwyr.

 

Yn dilyn sylwadau Nathan, gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau.

 

- Dywedodd Jim Crowe wrth y grŵp fod erthygl yr Athro Luke Clement wedi'i chyhoeddi yn eu cylchgrawn 'Llais' a'i bod ar gael hefyd ar eu gwefan. Bydd eu rhifyn nesaf o Llais yn cynnwys erthygl gan Mark Drakeford AC, yn ogystal â safbwynt Anabledd Dysgu Cymru am y Ddeddf.

 

- Ychwanegodd Lindsay Haveland y trafodwyd y Ddeddf yn Fforwm Cludiant Cymunedol Gogledd Cymru yn ddiweddar. Mynegwyd pryderon ymysg yr aelodau nad yw'r Ddeddf yn cyfeirio'n benodol at gludiant, a allai golygu nad yw pobl yn gallu cael gwasanaethau.

 

- Faint o ddefnydd fydd hi i ofalwyr gael mynediad at wybodaeth os bydd toriadau i gyllid? Mae angen i'r arian gynnal y safonau gofal.

 

Anerchodd Margaret y grŵp i ymateb i rai o'r pryderon. Mewn perthynas ag awgrym Nathan am fideo, cadarnhaodd Margaret y byddai fideo yn cael ei gynhyrchu.

 

Mae pwysau ariannol yn broblem go iawn i bawb. Ychwanegodd Margaret na ellir ymdopi â chyni cyllidol drwy dorri gwasanaethau, a bod angen syniadau gofalus, ystyriol a chydlynus i ddod o hyd i atebion. Bydd y Ddeddf yn cael ei chyflawni drwy bobl yn parhau i gydweithio.

 

Mynegwyd peth rhwystredigaeth ynghylch monitro taliadau uniongyrchol, yn arbennig y diffyg ymddiriedaeth yng ngallu pobl anabl i'w rheoli'n gywir.

 

Cytunodd Mark Jones fod awdurdodau lleol yn monitro taliadau uniongyrchol yn ormodol, ond mai un o ofynion Swyddfa Archwilio Cymru yw hyn.

 

Cam gweithredu: Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd i ysgrifennu at Mark Drakeford AC yn tynnu sylw at y materion ynghylch y broses o fonitro taliadau uniongyrchol sy'n cael ei gosod ar awdurdodau lleol a sut mae hyn yn effeithio ar y rhai sy'n eu derbyn am nad ydynt yn cael annibyniaeth.

 

4.

Ymgynghoriad Amcanion Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru –  Isabel Mortimer, yr Is-adran Tecach

 

Gan fod Isabel Mortimer yn methu dod i'r cyfarfod, ni chafodd yr eitem hon ei thrafod.

 

5. 

Grant Byw'n Annibynnol Cymru Sheila Meadows OBE (Rhiant Gofalwr) a Paul Swann, Anabledd Cymru

 

 

Sheila Meadows OBE

Dros y blynyddoedd, mae'r system wedi galluogi pobl anabl i fyw bywydau llawn ac ystyrlon yn eu cymunedau. System yw hon, nid cronfa o arian.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cylchredeg ymgynghoriad yn gofyn am awgrymiadau ar yr hyn a ddylai ddigwydd wedi iddo ddod i ben. Nid oedd y canlyniadau yn adlewyrchu barn pobl anabl a'u gofalwyr, sef 'system debyg i bawb ac i bobl gael cefnogaeth ar gyfer eu hanghenion sydd wedi'u nodi'. Tynnodd Sheila sylw at y ffaith mai'r gost i'r Gronfa Byw'n Annibynnol weinyddu'r system oedd 2%, o'i gymharu â ffi o 17% pe bai awdurdodau lleol yn cael y cyfrifoldeb am y gwaith. Gorffennodd Sheila drwy ddweud bod yr Alban wedi datrys y mater ac y dylai Cymru ddilyn.

 

Paul Swann

Mynegodd Paul ei annifyrrwch am fethiant Llywodraeth Cymru i roi sylw i wrthwynebiadau Canolfan Dewis ar gyfer Byw'n Annibynnol i ddefnyddio Dewis Cymru fel enw'r porthol gwybodaeth ar-lein.

 

Mae wedi derbyn sawl astudiaeth achos yn rhoi enghreifftiau o broblemau y mae derbynwyr Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn eu hwynebu. Darllenodd un o'r rhain. Mae menyw sydd wedi defnyddio'r Gronfa ers nifer o flynyddoedd yn cyflogi pump o bobl ar hyn o bryd, ac mae pob un ohonynt yn ennill yr isafswm cyflog. Nid yw'n derbyn digon o arian gan Grant Byw'n Annibynnol Cymru i gynyddu'r cyflog fesul awr er bod yr isafswm cyflog cenedlaethol wedi cynyddu 20 ceiniog yr awr. Tynnodd Paul sylw at rai o'r problemau y mae'n eu hwynebu o ganlyniad:

 

-   Dim gweinyddiaeth ganolog i gyfeirio'r mater hwn ati

-   Neb i siarad â nhw am ddyfarniad Grant Byw'n Annibynnol Cymru

-   Dim gweithwyr cymdeithasol maes

-   Dim cronfa adnoddau canolog i gynyddu ei dyfarniad

-   Ni all yr awdurdod lleol gyffwrdd y swm sydd wedi'i neilltuo nac ychwanegu ato.

-   Mae derbynwyr yn torri'r gyfraith drwy beidio â thalu'r lleiafswm cyflog.

 

Mae nifer o bryderon difrifol nad oes modd eu trafod ag unrhyw un. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ystyried trefniadau ar gyfer y dyfodol tan ddiwedd y flwyddyn hon. Pwysleisiodd Paul y dylai cyfarfodydd fod yn digwydd nawr.

 

Gorffennodd Paul drwy ofyn i Margaret Provis gyfleu'r pryderon hyn i Lywodraeth Cymru, gyda'r gobaith o gychwyn y gwaith y mae angen ei wneud i sicrhau bod Cymru yn dilyn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Nododd Margaret fod Llywodraeth Cymru yn gwybod bod y materion hyn yn rhai brys a chytunodd y byddai'n eu trafod gydag Alistair Davey, a fydd yn falch o glywed gan y grŵp ac yn ymateb yn gyflym.

 

Cam gweithredu: Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd i ddrafftio llythyr at Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bryderon ynghylch Grant Byw'n Annibynnol Cymru.

 

6.

Ymchwil Anabledd ar Fyw a Dysgu'n Annibynnol (DRILL) – Rhian Davies, Anabledd Cymru

Rhoddodd Rhian y diweddaraf i'r grŵp am y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd, a rhannodd daflen.

 

Mae grant wedi cael ei ddyfarnu i Anabledd Cymru a'i bartneriaid Disability Action Northern Ireland, Disability Rights UK ac Inclusion Scotland gynnal Ymchwil Anabledd ar Fyw a Dysgu'n Annibynnol. Bydd y prosiect yn para am y pum mlynedd nesaf. Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar y graddau y mae pobl anabl yn gallu byw'n annibynnol, ac yn casglu eu barn ar sut y gellid gwneud newidiadau.

 

Byddant yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil a pheilot ynghylch y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu o ran gallu byw'n annibynnol. Pobl anabl fydd yn arwain yr ymchwil, gan gydweithio ag academyddion a phobl sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Mae dros 40 o brosiectau ar y gweill dros y cyfnod o bum mlynedd. Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal ledled Cymru oddeutu diwedd mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr.

 

Dosbarthwyd rhaglen wybodaeth am DRILL.

 

7.

Cyfarfod Blynyddol ac Adroddiad Blynyddol     

 

Cyfarfod Blynyddol

 

Cytunodd Aled Roberts AC a Mark Isherwood AC i sefyll i'w hail-ethol a bod yn gyd-gadeiryddion.

Cynigiwyd gan: Trevor Palmer,  Eiliwyd gan: Eric Owen

 

Cytunodd Paul Swann i barhau i fod yn ysgrifennydd.

Cynigiwyd gan: Vin West,  Eiliwyd gan: Trevor Palmer

 

Diolchodd Paul Swann i'r ddau gadeirydd am eu cyfraniad i'r grŵp.

 

Adroddiad Blynyddol

Dosbarthwyd copi o'r adroddiad blynyddol.  Dywedodd Aled Roberts AC mai cyfanswm treuliau'r grŵp am y flwyddyn oedd £967.66. Atgoffodd y grŵp mai Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru sy'n ariannu'r cyfarfodydd, sy'n cynnwys Anabledd Cymru, Mind Cymru, Cyngor Cymru i'r Byddar, Cyngor Cymru i'r Deillion ac Anabledd Dysgu Cymru.

8.

Unrhyw fater arall

 

Jim Crowe – Mae penderfyniad Llywodraeth y DU ynghylch y Cyflog Byw Cenedlaethol yn rhoi pwysau trwm ar gomisiynu gwasanaethau byw â chymorth. O ganlyniad, mae darparwyr byw â chymorth, sydd yn y trydydd sector yn bennaf, yn wynebu biliau mawr iawn, heb unrhyw arian ar gael gan gomisiynwyr i lenwi'r bwlch. Mae Anabledd Dysgu Cymru wrthi'n trafod hyn gyda’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau eraill y trydydd sector.

 

Jim Crowe – Mae byrddau iechyd lleol yn cael eu hannog i edrych ar sut y maent yn asesu pobl ag anableddau dysgu o safbwynt gofal iechyd parhaus. Mae'n debygol y bydd mwy o bobl yn cael eu hannog i symud o gymorth gan ofal cymdeithasol i'r model meddygol o ofal iechyd parhaus. Mae hynny'n golygu na fyddant bellach yn gallu derbyn taliadau uniongyrchol. Y canlyniad fydd rhoi pobl ag anabledd dysgu mewn perygl o gael eu labelu er mwyn cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol.

 

Ychwanegodd Mark Isherwood AC ei fod wedi datgan yn glir mewn cyfarfodydd gyda'r Dirprwy Weinidog, er y byddai modd cyfuno cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol statudol o dan y Ddeddf, na chaniateir cyfuno cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol personol neu uniongyrchol. Byddai hyn yn gadael Cymru ar ei hôl hi o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU.

 

9.

Dyddiadau a themâu ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol

 

Ion/Chwe 2016 – Dyddiad i'w gadarnhau